Dyma gyfle i chi fel gwyliwr S4C roi'ch barn ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig i chi. Yn benodol, rydyn ni'n gofyn am isdeitlo Cymraeg a Saesneg, Sain Ddisgrifio, arwyddo a thrac sain Saesneg.
Mae ganddon ni holiadur yr hoffem i chi ei lenwi trwy glicio ar y ddolen we isod. Mae'r holiadur yn berthnasol i bob gwyliwr sy'n defnyddio un neu fwy o'r gwasanaethau, gan gynnwys aelodau'ch teulu.
Rydyn ni'n chwilio am farn gwylwyr o bob oedran er mwyn gwella'r gwasanaethau lle bynnag mae hynny'n bosibl. Gallwch chi lenwi'r holiadur yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Mae’r holiadur wedi ei gynllunio i weithio ar-lein yn hwylus i chi, ac mae’n bosibl na fydd raid i chi lenwi’r holiadur i gyd.
Os nad yw llenwi holiadur ar-lein yn hwylus i chi, er enghraifft os ydych yn cael trafferth gyda’ch golwg, croeso i chi ffonio Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141. Bydd aelod o staff y Wifren yn eich ffonio chi'n ôl i lenwi'r holiadur i chi dros y ffôn.
Diolch yn fawr am eich cydweithrediad o flaen llaw, ac rydyn ni'n ddiolchgar am eich cymorth.
Mae gwasanaeth sain ddisgrifiad ar gael am ddim ar S4C digidol. Gall y gwasanaeth newid profiad gwylio teledu i bobl gydag anhawster gweld beth sydd yn digwydd ar y sgrîn, gyda sylwebaeth ychwanegol yng Nghymraeg.
Mae'r eicon uchod yn dynodi os yw'r gwasanaeth ar gael ar gyfer rhaglen benodol.
Pwyswch 'help' er mwyn dewis i droi'r sain ddisgrifiad ymlaen neu i ffwrdd.
Dim ond rhai peiriannau Freeview sydd yn gallu derbyn sain ddisgrifiad. Ar hyn o bryd dim ond rhai peiriannau Freeview TVonics a Portset sydd yn gallu derbyn y gwasanaeth. Am fwy o wybodaeth:
Mae'r gwasanaeth hefyd ar gael ar rhai setiau IDTV.(IDTV - Freeview Integrated Digital Television) Ceir rhestr o'r peiriannau addas ar gael o'r wefan sain ddisgrifio: www.audiodescription.org.uk
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales