Oherwydd problemau hawliau, nid yw'n holl raglenni ar gael ar y we ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae darpariaeth eang ar gael ar ein tudalennau gwylio eisoes a bwriadwn ymestyn y gwasnaeth hwn. Os ydych yn cael problemau technegol gwylio cynnwys sydd ar y dudalen gwylio, edrychwch yma am wybodaeth bellach.
Mae gwaharddiadau hawlfraint byd-eang yn ein gwahardd rhag dangos ein holl gynnwys y tu allan i'r DU. Gobeithiwn allu ymestyn y gwasanaeth hwn yn y dyfodol i ehangu'r ddarpariaeth ar y we.
Gweler Amserlenni teledu S4C
Nid yw gwasanaeth draddodiadol analog S4C, sy’n darlledu rhaglenni Channel 4 ar gael yn ddigidol. Ers dyfodiad S4C yn 1982 mae amserlen Channel 4 wedi ei gwmpasu i mewn i'n amserlenni oherwydd nad oedd Channel 4 ar gael yng Nghymru. Bydd y drefn yma yn parhau hyd y dydd y bydd y Llywodraeth yn penderfynu diffodd darlledu analog ym Mhrydain.
Mae teledu digidol yn galluogi nifer o sianeli i gael eu darlledu ochr yn ochr ar 3 llwyfan gwahanol (digidol daearol, lloeren, a Cebl). Mae S4C digidol (sydd ar gael ar sianel 135 ar Sky) yn canolbwyntio ar raglenni Cymraeg yn unig gan fod Channel 4 ar gael yng Nghymru yn dilyn dyfodiad teledu digidol.
Yng Nghymru bydd y trosglwyddyddion sydd ar hyn o bryd heb gael eu huwchraddio i ddarlledu digidol yn parhau i ddarlledu'r sianel analog.
Mae gwylwyr sydd yn gwylio'n ddigidol gyda'r dewis o S4C digidol a Channel 4.
Yr unig ffordd i dderbyn S4C digidol y tu allan i Gymru ar hyn o bryd, yw drwy loeren ar sianel 135. Ond, nid oes angen tanysgrifio i becynnau SKY i dderbyn y sianel.
Cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C os gwelwch yn dda.
Cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C os gwelwch yn dda.
Nid yw S4C yn cynhyrchu rhaglenni yn fewnol. Cysylltwch â'r BBC ar gyfer y brif raglen newyddion sy'n ymddangos ar S4C ar 08700 100 222. Mae rhaglen Wedi 3 sy'n ymddangos ar S4C yn adrodd straeon lleol. Tinopolis sy'n cynhyrchu'r rhaglen ar gyfer S4C a gellir cysylltu â hwy gan ddefnyddio'r cyfeiriad yma - Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE neu ffonio 01554 880 880 neu ebostio info@tinopolis.com.
Nid yw S4C yn darparu copiau o raglenni ar gyfer aelodau'r cyhoedd gan eithro bod prawf mai ar gyfer defnydd addysgol sydd eu hangen. Os oes gennych brawf, dylid cysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C i gychwyn.
Mae S4C yn awyddus iawn i fantesio ar y dechnoleg newydd sydd yn ein galluogi i gynnig gwasanaethau Botwm Coch ar rhai o'r rhaglenni sydd yn cael eu darlledu ar S4C digidol. Serch hynny cyn i ni ddarlledu rhaglenni'n ddwyieithog mae angen datrys problemau cytundebol. Yn arferol mae S4C yn sicrhau hawliau darlledu Cymraeg yn unig gyda'r hawliau Saesneg yn cael eu sicrhau gan gwmniau eraill. Er enghraifft mae S4C yn rhannu'r hawliau i ddarlledu rygbi yng Nghymru gyda'r BBC. Gan Sky mae'r hawl i ddarlledu gêmau pêl-droed cartref Cymru yn Saesneg. Newyddion cyffrous am rygbi i'w weld yma.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales